Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (246)v3 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch Atgyfeirio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) i’r Goruchaf Lys (30 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (60 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Datganoli trethi yng Nghymru - Ymgynghoriad ar Dreth Trafodiad Tir (30 munud) |
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn: Lle i’w alw’n gartref? Adolygiad o ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru (30 munud) |
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygiad mewn perthynas â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 6) (30 munud) NDM5689 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 6) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Gellir cael copi o'r Bil Dadreoleiddio ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/deregulation.html (Saesneg yn unig)
Dogfen Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
|
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu Difrifol - diwygiad mewn perthynas â chyfathrebu'n rhywiol â phlentyn (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3) (30 munud) NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â'r drosedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html (Saesneg yn unig)
Dogfen Ategol |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud) |
9 Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 NDM5693 Huw Lewis (Merthyr Tudful)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.
Dogfennau Ategol Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
10 Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 NDM5694 Huw Lewis (Merthyr Tudful)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.
Dogfennau Ategol Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
11 Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru) (60 munud) NDM5691 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cynllunio (Cymru).
Gosodwyd Bil Cynllunio (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 6 Hydref 2015;
Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bil Cynllunio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2015.
Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
|
12 Penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) (5 munud) NDM5692 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cynllunio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
|
13 Cyfnod pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 11 Chwefror 2015